Yn bresennol
Categori
|
Enwau
|
Aelodau
o’r Senedd:
|
Mike Hedges AS
(Cadeirydd)
Alun Davies
AS
Samuel Kurtz
AS
Adam Price
AS
Luke Fletcher
AS
|
Tystion:
|
|
Staff y
Pwyllgor:
|
P Gareth
Williams (Clerc)
Gerallt Roberts
(Ail Glerc)
Sarah Sargent
(Ail Glerc)
Kate Rabaiotti
(Cynghorydd Cyfreithiol)
|
<AI1>
1
Cyflwyniad,
ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
</AI1>
<AI2>
2
Offerynnau
sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r
Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
</AI2>
<AI3>
2.1
SL(6)485 -
Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y
Cwricwlwm i Gymru) 2024
Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd
i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a
nodwyd.
</AI3>
<AI4>
3
Cytundeb
Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
</AI4>
<AI5>
3.1
Gohebiaeth oddi
wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y Grŵp
Rhyngweinidogol
Nododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a
Chyfiawnder Cymdeithasol mewn perthynas â chanslo
Grŵp
Rhyngweinidogol Diogelwch, Diogelwch a Mudo, a gohebiaeth gan y
Cwnsler Cyffredinol ynghylch y Grŵp Rhyngweinidogol
ar gyfer Etholiadau a Chofrestru.
</AI5>
<AI6>
3.2
Gohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2024
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig.
</AI6>
<AI7>
3.3
Gohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
Rheoliadau Gorfodi Lles Anifeiliaid (Allforio Da Byw)
2024
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig.
</AI7>
<AI8>
3.4
Datganiad
Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Deddf Ifori (Ystyr
“Ifori” a Diwygiadau Amrywiol) 2024
Nododd y
Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion
Gwledig.
</AI8>
<AI9>
3.5
Datganiad
Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y
Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Rheoliadau Deddf Caffael
2023 (Cychwyn Rhif 3, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed)
2024
Nododd y
Pwyllgor ydatganiad ysgrifenedig
a’r ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y
Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet.
</AI9>
<AI10>
4
Papurau i’w
nodi
</AI10>
<AI11>
4.1
Gohebiaeth gan y
Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru
2025-26
Nododd y
Pwyllgor yrohebiaeth gan y Pwyllgor
Cyllid. Cytunodd y Cadeirydd, fel Aelod o'r Pwyllgor Cyllid, i
gyfrannu at y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y Gyllideb
Ddrafft ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad.
</AI11>
<AI12>
4.2
Gohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg:
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a
Gwybodaeth Ddigidol
Nododd y
Pwyllgor yrohebiaeth ag Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.
</AI12>
<AI13>
4.3
Gohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Bil
Seilwaith (Cymru)
Nododd y
Pwyllgor yrohebiaeth ag Ysgrifennydd y
Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.
</AI13>
<AI14>
4.4
Gohebiaeth ag
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tybaco a Fêps
Nododd y
Pwyllgor yrohebiaeth gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
</AI14>
<AI15>
4.5
Gohebiaeth
â’r Pwyllgor Busnes: Adolygu Rheol Sefydlog
29
Nododd y
Pwyllgor yrohebiaeth â’r
Pwyllgor Busnes.
</AI15>
<AI16>
4.6
Datganiad
ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig: Fframwaith Polisi ar gyfer Sylweddau Ymbelydrol a
Datgomisiynu
Nododd y
Pwyllgor ydatganiad ysgrifenedig gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion
Gwledig.
</AI16>
<AI17>
4.7
Llythyr gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol:
Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
(Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024
Nododd y
Pwyllgor yrohebiaeth gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder
Cymdeithasol.
</AI17>
<AI18>
4.8
Datganiad
Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diwygiadau i
ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU i gefnogi sefydlu’r Comisiwn
Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Nododd y
Pwyllgor yDatganiad Ysgrifenedig gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
</AI18>
<AI19>
4.9
Gohebiaeth gyda'r
Cwnsler Cyffredinol: Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn Saesneg yn
unig
Nododd y
Pwyllgor yrohebiaeth gyda’r Cwnsler
Cyffredinol.
</AI19>
<AI20>
4.10 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cyhoeddi Estyniad i
Gwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Ymgyngoriadau ar Wastraff
ac Integreiddio Gwaredu Nwyon Tŷ Gwydr
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig.
</AI20>
<AI21>
4.11 Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a'r Seilwaith ac Ysgrifennydd y Cabinet
dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Asesiad o Ddeddf Cyfraith
yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 ar gyfraith amgylcheddol
yng Nghymru
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a'r Seilwaith ac Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
</AI21>
<AI22>
4.12 Gohebiaeth gan y Trefnydd
a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Cyllid: Bil Senedd Cymru
(Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Trefnydd
a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Cyllid.
</AI22>
<AI23>
5
Cynnig o dan Reol
Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod.
Derbyniwyd y
cynnig.
</AI23>
<AI24>
6
Memorandwm
Cydsyniad Offeryn Statudol - Rheoliadau Deddf Ynni 2023 (Diwygiadau
Canlyniadol) 2024
Trafododd y
Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn
Statudol a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod
nesaf.
</AI24>
<AI25>
7
Cytundebau
rhyngwladol: Adroddiad drafft
Cytunodd y
Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.
</AI25>
<AI26>
8
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion
Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd
Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE)
2022: Gohebiaeth ddrafft
Cytunodd y
Pwyllgor ar yr ohebiaeth ddrafft.
</AI26>
<AI27>
9
Cynigion yn
ymwneud â chefnogi amgylchedd bwyd iachach yng Nghymru:
Gohebiaeth ddrafft
Cytunodd y
Pwyllgor ar yr ohebiaeth ddrafft.
</AI27>
<AI28>
10
Cywiriadau i
Offerynnau Statudol cadarnhaol drafft: Gohebiaeth
ddrafft
Cytunodd y
Pwyllgor ar yr ohebiaeth ddrafft.
</AI28>
<AI29>
11
Y broses
cydsyniad deddfwriaethol: Gohebiaeth ddrafft
Cytunodd y
Pwyllgor ar yr ohebiaeth ddrafft.
</AI29>
<AI30>
12
Deddf Deddfau
Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022: Gohebiaeth
ddrafft
Cytunodd y
Pwyllgor ar yr ohebiaeth ddrafft.
</AI30>
<AI31>
13
Ystyriaeth o
ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Cylchoedd gwaith y
pwyllgorau
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor
Busnes.
</AI31>
<AI32>
14
Diweddariad ar
Filiau’r DU
Cafodd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Biliau’r DU yn
sgil cyhoeddi’r Etholiad Cyffredinol sydd ar y
gweill.
</AI32>
<AI33>
15
Blaenraglen
waith
Cafodd y
Pwyllgor ddiweddariad llafar ar ei flaenraglen waith.
</AI33>
<AI34>
16
Bil Senedd Cymru
(Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Adroddiad drafft
Cytunodd y
Pwyllgor ar ei adroddiad drafft, yn amodol ar fân
newidiadau.
</AI34>
<TRAILER_SECTION>
</TRAILER_SECTION>
<LAYOUT_SECTION>
1.
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
2.
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
<HEADING_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
</HEADING_LAYOUT_SECTION>
<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_SUMMARY
</COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.1
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.2
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>